Pobl fregus angen brechiad ffliw
- Cyhoeddwyd

Dyw nifer o bobl ddim yn gwybod eu bod yn gymwys ar gyfer brechiad am ddim
Mae rhybudd bod nifer fawr o bobl yn wynebu risg o ddal y ffliw oherwydd nad ydynt wedi derbyn brechiad.
Yn ôl doctoriaid sy'n gweithio ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro dyw dros hanner eu cleifion dan 65 sy'n cael eu hystyried i fod yn "fregus" heb dderbyn y cynnig o gael brechiad am ddim.
Mae perygl y gallai'r bobl hyn ddatblygu afiechydon allai fod yn ddifrifol os ydynt yn dal y ffliw, gan gynnwys broncitis a niwmonia.
Mae data gan, dolen allanol yn dangos bod nifer y bobl fregus sydd dan 65 sydd wedi derbyn brechiad hefyd yn isel iawn o fewn ardaloedd byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg (42.8%), Hywel Dda (43.6%) a Phowys (44.5%).
Dywedodd Dr Tom Porter sy'n ymgynghorydd o fewn y bwrdd iechyd: "Mae llawer o bobl dan 65 yn gymwys ar gyfer derbyn brechiad ffliw am ddim ond dydyn nhw ddim yn ymwybodol o hynny.
"Mae brechiadau am ddim ar gael ar gyfer pobl sy'n wynebu'r risg fwyaf o ffliw gan gynnwys menywod beichiog a phobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor fel asthma, clefyd siwgr ac afiechyd y galon.
"Mae'r ffliw yn ymledu'n hawdd ac mae'n gallu achosi salwch difrifol allai arwain at driniaeth yn yr ysbyty fel broncitis, niwmonia a meningitis."
Gan fod y firws sy'n achosi'r ffliw yn newid o dymor i dymor mae angen i'r rhai sydd angen brechiad dderbyn un bob blwyddyn er mwyn eu hamddiffyn yn erbyn y straen fwyaf diweddar.
Dylai unrhyw un sydd eisiau derbyn brechiad gysylltu â'i meddyg teulu, nyrs y feddygfa neu Galw Iechyd Cymru, dolen allanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2012
