Gestede yn gadael Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Gestede wedi chwarae ei gêm olaf yng nghrys coch Caerdydd
Mae Rudy Gestede, 25, wedi gadael Caerdydd i ymuno â Blackburn Rovers.
Roedd Gestede yn rhan o'r tîm wnaeth orffen yn gyntaf yn y Bencampwriaeth y flwyddyn ddiwethaf, gan sgorio bump o weithiau mewn 27 o gemau.
Daeth ei gêm orau iddynt wrth iddo sgorio dwy yn erbyn Nottingham Forest y tymor diwethaf.
Yn dilyn dyrchafiad y clwb gwelodd bod ei gyfle i chwarae i'r tim cyntaf yn cael ei gyfyngu, yn rhannol oherwydd bod Malky Mackay wedi arwyddo ymosodwyr newydd ar gyfer tymor cyntaf yr Adar Gleision yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Aeth y Ffrancwr ar fenthyg i Blackburn ac mae wedi sgorio unwaith iddyn nhw mewn chwe gêm ers arwyddo iddyn nhw ym mis Tachwedd.
Wrth i'r clwb gyhoeddi'r cytundeb, dywedodd Gestede: "Rwy'n hapus iawn i arwyddo i Blackburn Rovers.
"Maen nhw wedi rhoi'r cyfle i mi chwarae ac i fod ar y cae a nawr maen nhw wedi rhoi'r cyfle i mi arwyddo cytundeb parhaol gyda nhw ac rwy'n hapus iawn i aros yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2013

- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2012
