Cyfarfodydd cyhoeddus i drafod cyllideb Powys
- Cyhoeddwyd

Mae swydd arweinydd y cyngor yn y fantol hefyd
Mae Cyngor Powys wedi cyhoeddi y bydd cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal mewn cysylltiad â'r toriadau fydd yn cael ei gwneud i swyddi a gwasanaethau.
Bydd chwe sesiwn yn cael eu cynnal mewn trefi gwahanol ym mis Ionawr yn ystod y gyda'r nos rhwng y 13eg a'r 16eg.
Mae hyd at 300 o weithwyr o fewn y cyngor yn wynebu colli ei swyddi wrth i'r awdurdod geisio arbed tua £40 miliwn y flwyddyn dros y tair blynedd nesaf.
Mae'r cyngor eisoes wedi cyhoeddi cynllun, ac mae hwn yn cynnwys torri gwasanaethau, cynyddu treth cyngor a chynyddu prisiau am wahanol wasanaethau.
Yn ogystal gallai gwaith rhai swyddogion gael ei wneud gan systemau awtomatig yn y dyfodol.
Diffyg sylweddol
Cyngor Powys, ynghyd a chynghorau Sir Ddinbych a Cheredigion sy'n wynebu'r toriad mwyaf (fel canran) yn dilyn cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15.
Dywedodd arweinydd y cyngor David Jones: "Mae graddfa'r pwysau cyllidebol sy'n wynebu Powys yn golygu ein bod yn gorfod cael ymagwedd awdurdod-gyfan gan newid y ffordd rydym yn gweithio, gan fabwysiadau dulliau gweithredu newydd a mwy o bartneriaid.
"Am y tro cyntaf erioed bydd y trafodaethau cyhoeddus ariannol yn cynnwys gwybodaeth gan ein cydweithwyr o fewn Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
"Rydym wedi darganfod pedair ffrwd gwaith wahanol er mwyn mynd i'r afael o'r diffyg o £20 miliwn yn 2014/15."
Bydd Mr Jones yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder mewn cyfarfod arbennig o'r cyngor ar Ionawr 10.
Mae hyn oherwydd bod aelodau o grŵp sydd wedi torri i ffwrdd oddi wrth ei grŵp ef wedi cyflwyno'r cynnig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd16 Hydref 2013

- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2013
