Y llanw ucha' erioed?
Gyda'r tywydd garw yn parhau y pryder ydi y gallai llanw uchel iawn a gwyntoedd cryfion gyfuno i greu llifogydd dros y dyddiau nesaf ar hyd glannau'r de a'r gorllewin. Mae nifer rhybyddion llifogydd yn ogystal â llond llaw o rhybydd difrifol wedi eu cyhoeddi ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd, dolen allanol. Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru dyma fydd y llanw uchaf i daro arfordir Cymru yn ei chyfanrwydd ers 1997.
O Gaerfyrddin, adroddiad Aled Scourfield.