Corff dan bont: Agor cwest
- Cyhoeddwyd

Cafodd y ffordd ei chau am oriau ddydd Llun wrth i'r heddlu wneud ymchwiliadau
Mae cwest i farwolaeth dynes gafodd ei darganfod yn farw o dan bont ger yr A483 yn ardal Y Waun ddydd Llun wedi cael ei agor a'i ohirio.
Daeth yr heddlu o hyd i gorff Sarah Maria Jones, 48 o Groesoswallt, wedi iddyn nhw gael eu galw i'r lleoliad am 1:30pm brynhawn Llun.
Fe wnaeth crwner y gogledd-ddwyrain John Gittins ohirio'r cwest tan ddyddiad fydd yn cael ei benderfynu'n hwyrach.
Yn y cyfamser mae achos y farwolaeth wedi cael ei gofnodi fel "anafiadau niferus a difrifol".
Mae'r heddlu eisoes wedi dweud nad ydyn nhw'n trin y farwolaeth fel un amheus.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2013
