Darganfod corff ger Porthmadog
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi darganfod corff dyn ym Morfa Bychan ger Porthmadog.
Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio am ddyn 64 oed o ardal Y Bermo wedi iddyn nhw dderbyn adroddiad ei fod ar goll.
Fe gafon nhw eu galw wedi galwad aelod o'r cyhoedd am 12:52pm ddydd Gwener.
Dyw'r corff heb gael ei adnabod yn ffurfiol ac mae'r crwner wedi cael ei hysbysu.