Damwain ar yr M4: Dyn yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae dyn yn yr ysbyty oherwydd damwain rhwng sawl cerbyd ar yr M4 ychydig cyn 5.25pm.
Cafodd y dyn ei dorri'n rhydd wedi i griwiau diffoddwyr o Dreforys a Gorseinon gyrraedd.
Roedd y ddamwain ar y lôn orllewinol ger Llangyfelach rhwng Cyffordd 46 a 47.