Dyn yn pledio'n euog i gynnau tân yn fwriadol
- Cyhoeddwyd

Cafodd y ffatri ei ddifrodi yn ddifrifol wedi'r tân yn 2012
Mae dyn wedi pledio yn euog i gynnau tân yn fwriadol mewn ffatri greision.
Cyfaddefodd Colin Goulding iddo gynnau'r tân yn ffatri Real Crisps yng Nghrymlyn ym mis Medi 2012.
Roedd Goulding yn gweithio yn y ffatri.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Mercher, Ionawr 8, yn Llys y Goron Casnewydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn oriau mân bore Iau Medi 20, 2012.
Roedd 115 o bobl yn gweithio yn y ffatri a chafodd dros 75% o'r adeilad ei ddifrodi.
Oherwydd hynny, dywedodd y cwmni oedd berchen y ffatri, Tayto Group o Ogledd Iwerddon, y byddai'n rhaid diswyddo staff.
Cafodd 80 eu diswyddo ym mis Hydref 2012, a 10 arall erbyn diwedd y flwyddyn.
Cafodd gweithwyr eraill eu hadleoli i safleoedd gwahanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2012

- Cyhoeddwyd20 Medi 2012
