Scarlets yn cynnig cytundebau i Priestland a Williams

  • Cyhoeddwyd
Scott Williams Rhys PriestlandFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Scott Williams a Rhys Priestland wedi cael eu cysylltu gyda nifer o glybiau yn Lloegr

Mae'r Scarlets yn dweud eu bod wedi cynnig cytundebau newydd i ddau o chwaraewyr Cymru, y maswr Rhys Priestland a'r canolwr Scott Williams.

Bydd cytundebau'r ddau yn dod i ben ar ddiwedd y tymor ac maent wedi cael eu cysylltu gyda nifer o glybiau y tu allan i Gymru.

Un sydd eisoes yn gadael y Scarlets ar ddiwedd y tymor yw canolwr Cymru a'r Llewod, Jonathan Davies, sy'n mynd i Clermont Auvergne yn yr haf.

"Rydym wedi gwneud cynigion cadarn ar gyfer Scott a Rhys," meddai hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby.

Mae Priestland wedi ei gysylltu â nifer o glybiau yn Lloegr gan gynnwys Caerloyw, Wasps a Chaerlŷr.

Mae Williams hefyd wedi ei gysylltu gyda Wasps, sy'n cael eu hyfforddi gan gyn brop Cymru, Dai Young.

Ffrae

Jonathan DaviesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r canolwr Jonathan davies yn un o'r rhai ar restr hir o chwaraewyr sy'n gadael clybiau Cymru eleni

Yn ddiweddar, mae nifer o chwaraewyr Cymru wedi gadael i chwarae i glybiau yn Lloegr a Ffrainc, ac mae'r anghydfod sydd rhwng rhanbarthau Cymru ac Undeb Rygbi Cymru yn parhau i achosi ansicrwydd.

Mae'r rhanbarthau - y Scarlets, y Gweilch, y Dreigiau a'r Gleision - yng nghanol dadl am ariannu'r clybiau, nifer y chwaraewyr o Gymru sy'n gadael, a chystadleuaeth bosib rhwng clybiau Cymru a Lloegr.

Yn ôl Priestland, oedd yn rhan o'r garfan enillodd y Gamp Lawn yn 2012, mae'r ffrae yn rhwystredig iawn i chwaraewyr Cymru.

Mae Easterby yn dweud ei fod yn teimlo dros yr holl chwaraewyr yng Nghymru sydd allan o gytundeb ac yn ceisio penderfynu ar eu dyfodol.

"I fod yn deg mae'r chwaraewyr mewn limbo ac mae'n anodd eu beio nhw," meddai.

"Mae'r rhanbarthau wedi gweithio yn galed iawn i roi nifer o opsiynau cryf iawn at y flwyddyn nesaf.

"Mae Nigel Short (cadeirydd y Scarlets) a Stuart Gallacher (prif weithredwr Regional Rugby Wales) wedi gweithio yn galed iawn i roi posibilrwydd o blatfform llawer gwell i ni weithio ohono o'r tymor nesaf ymlaen.

Ansicrwydd

"Rydym ni am gadw'r chwaraewyr yma, ond ar hyn o bryd does dim datrysiad i beth fydd yn digwydd, lle fyddwn yn chwarae ac yn erbyn pwy, ac wedyn mae'r mater o ariannu.

"Yn y pen draw, bydd chwaraewyr yn cadw draw os nad ydyn nhw am ymrwymo i rywbeth... pan nad ydyn nhw'n gwybod beth sy'n digwydd.

"Mae wedi bod yn fater mawr i mi a gallwn ni ddim cuddio rhagddo nawr.

"Mae wedi bod yn mynd ymlaen yn rhy hir ac mae angen i ni amddiffyn y chwaraewyr a'u cadw yma yng Nghymru.

"Yr hiraf mae'n parhau, llai yw'r siawns y bydd y bechgyn yma yn aros."

Straeon perthnasol