Clwb Pel-droed Dinas Caerdydd yn anrhydeddu arwr
- Cyhoeddwyd

Mae John Noctor wedi ei synnu gyda'r sylw
Mi fydd cefnogwr Caerdydd wnaeth achub plentyn oedd wedi disgyn o dan dren, yn westai arbennig i berchennog y clwb, Vincent Tan yn y gêm yn erbyn West Ham ddydd Sadwrn.
Roedd John Noctor ar ei ffordd i weld gêm yn erbyn Arsenal ddydd Calan pan welodd y bachgen yn llithro rhwng y tren a'r platfform. Mi ddringodd o dan y tren i achub y bachgen tra bod pobl eraill wedi cadw'r drysau ar agor i wneud yn siwr bod y tren ddim yn symud.
Mae'r clwb wedi canmol yr hyn wnaeth Mr Noctor.
"Yn dilyn y gêm mi gafon ni wybod am weithred ddewr John ar ei ffordd i wylio'r tîm," meddai llefarydd o'r clwb.
"Mae ymddygiad ac angerdd ein cefnogwyr yn rhywbeth rydyn ni wedi ei ganmol yn ddiweddar ac mae John yn enghraifft arall o hyn. Mi oedd pawb yn y clwb wedi eu cyffwrdd gan ei ddewrder felly mi fyddwn ni yn ei groesawu ef a'i deulu i 'stafell y cadeirydd ar gyfer y gêm yn erbyn West Ham."
Bydd Mr Noctor, 51, o Lanrhymni yng Nghaerdydd hefyd yn cael ei gyflwyno i'r dorf yn ystod hanner amser. Ond tra bod y gyrrwr bws yn ddiolchgar iawn mae o hefyd wedi ei synnu gyda'r sylw.
Normalrwydd
"Mae'r bachgen bach yn saff a dyna'r hyn dw i yn ddiolchgar amdano. Yn bendant doeddwn i ddim yn disgwyl hyn o gwbl. Mi fyswn i yn hoffi meddwl y byddai pobl eraill wedi gwneud yr un peth i fi yn y sefyllfa yna."
"Mae e fel bod fi yn byw dau fywyd gwahanol. Mae pawb yn ffonio eisiau cyfweliadau ac ar yr un pryd dw i yn trio cario mlaen efo fy mywyd normal fel gyrrwr bws.
"Mae e yn beth neis iawn i'r clwb wneud a dw i'n gyffrous iawn i weld Mr Tan. Ond ar ôl hynny dw i'n edrych ymlaen i gael ychydig o normalrwydd unwaith eto."
Mae cyflogwyr Mr Noctor, First Cymru hefyd wedi cydnabod yr hyn wnaeth o drwy roi gwobr iddo. Mae'r wobr yn cydnabod unigolion sydd yn mynd gam ymhellach na'r hyn sydd yn ddisgwyliedig ohonyn nhw.
Dywedodd Steve Davies o First Cymru: "Mae e wir yn arwr ond yn y ffordd Gymraeg na, mae e yn wylaidd iawn am yr holl beth."