Trafodaethau rhwng clwb Abertawe a Tom Ince
- Cyhoeddwyd

Mae Ince wedi chwarae 12 o weithiau ar gyfer tîm o dan 21 Lloegr
Mae Abertawe mewn trafodaethau gydag asgellwr Blackpool, Tom Ince er mwyn ei arwyddo i chwarae i'r clwb.
Mae Ince hefyd wedi ei gysylltu gyda chlwb Monaco yn Ffrainc ers iddo gael cynnig cytundeb newydd gyda Blackpool ym mis Rhagfyr.
Roedd na ddisgwyl i Ince, sydd yn fab i'r cyn chwaraewr Paul Ince, ymuno gyda Chaerdydd yn ystod haf 2013. Ond mi benderfynodd y dyn 21 oed i beidio symud ar ôl iddo ddod yn dad.
Mi gychwynodd Ince ei yrfa gyda thîm o dan 21 Lloegr a Lerpwl oedd ei dîm cyntaf. Fe ymunodd wedyn gyda Blackpool ym mis Awst 2011.
Mae wedi sgorio 33 o goliau mewn 111 o gemau. Y tymor yma mae o wedi sgorio saith gwaith mewn 23 o gemau.
Ond dyw Blackpool sydd yn 12fed yn yr uwch gynghrair ddim wedi cael llawer o lwyddiant yn ddiweddar, gan golli'r wyth gêm ddiwethaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2013
