Pwll nofio Abertawe: sicrhau ei ddyfodol
- Cyhoeddwyd

Mae rhai nofwyr elitaidd wedi symud i ganolfannau nofio yn Lloegr yn barod
Mi fydd pwll nofio sydd yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi nofwyr proffesiynol yn aros ar agor ar ôl i gytundeb gael ei arwyddo.
Roedd yna fygythiad i bwll nofio Abertawe ar ôl toriadau ariannol i'r gamp. Roedd hynny yn golygu nad oedd y ganolfan yn cadw ei statws fel lle i nofwyr Paralympaidd ac Olympaidd hyfforddi.
Ond hefo'r cytundeb newydd, y gobaith ydy y bydd y nofwyr gorau yn aros yn Abertawe.
Am y tro cyntaf, mi fydd British Swimming yn buddsoddi yn uniongyrchol yn y corff Swim Wales yng Nghymru yn hytrach nag yn y pwll nofio.
Dydy'r ffigyrau pendant ddim wedi eu cyhoeddi eto ond mae'r arian fydd yn cael ei roi yn llai na'r hyn sydd wedi ei gyfrannu yn y gorffennol.
Y gred ydy y bydd y corff ymbarel Chwaraeon Cymru hefyd yn buddsoddi yn y ganolfan.
Mi fydd Swim Wales yn gyfrifol am hyfforddi y nofwyr gorau a datblygu nofwyr ar gyfer y dyfodol. Bydd yr hyfforddwyr uchel ei parch Bud McAllister a Billy Pye yn aros yn Abertawe.
Saith medal
Mae na amod ar gyfer y cytundeb. Mi fydd y buddsoddiad y bydd y corff nofio yn cael yn dibynnu ar faint o fedalau y bydd nofwyr Cymru yn ennill yng Ngemau'r Gymanwlad eleni. Mae BBC Cymru yn deall mai saith medal ydy'r targed.
Hefyd mae'r arian yn ddibynnol ar faint o nofwyr Cymru fydd yn cael eu dewis fel rhai sydd gyda potensial i gael medal yn y Gemau Olympaidd nesaf. Bydd rhain yn cymryd rhan mewn rhaglenni penodol.
Ond mi allai yna fod her i'r pwll nofio ei hun hefyd.
Efallai y bydd Swim Wales angen llai o oriau yn hyfforddi yn y pwll am nad oes gan y ganolfan statws swyddogol fel canolfan hyfforddi i nofwyr Olympaidd a Pharalympaidd bellach.
Mi allai hyn olygu y bydd yn rhaid iddyn nhw ffeindio mwy o bobl i ddefnyddio'r pwll er mwyn gwneud yn siwr bod ganddyn nhw ddigon o arian.
Mae Georgia Davies a Jemma Lowe wnaeth gystadlu yn y Gemau Olympaidd a'r nofwraig Baralympaidd Ellie Simmonds eisoes wedi symud i Loegr i hyfforddi.
Y gobaith efo'r newidiadau yma ydy cadw nofwyr eraill fel Jazz Carlin.
Mae disgwyl cyhoeddiad swyddogol am y cytundeb ddydd Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2013

- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2013
