Cynnydd mewn troseddau rhyw
- Cyhoeddwyd

Fe fydd yr elusen nawr yn ail gynnal ymgyrch oedd yn rhoi canllawiau i rieni
Dywed yr NSPCC fod yna gynnydd o 25% yn nifer y plant cynradd gafodd eu cam-drin yn rhywiol yng Nghymru'r llynedd.
Yn ôl yr elusen fe wnaeth yr heddlu gofnodi 376 o achosion yn 2012-13, cynnydd o 75 ar y flwyddyn flaenorol.
Mae'r elusen yn dweud fod y ffigyrau yn achos pryder yn arbennig gan fod y dioddefwyr mor ifanc.
Maen nhw'n dweud y bod yn rhaid i rieni wneud mwy, gyda nifer ddim yn gwneud digon i rybuddio plant am gamdrin rhywiol.
Fe fydd yr elusen nawr yn ail gynnal ymgyrch oedd yn rhoi canllawiau i rieni ar sut i fynd ati i drafod y pwnc.
Dywedodd Des Mannion, pennaeth gwasanaeth NSPCC Cymru: "Mae camdrin rhywiol yn parhau i adael craith ar ein cymdeithas, a bydd y clwyf ddim yn gwella ar ben ei hun.
"Mae ein hymgyrch wedi dechrau'r gwaith o geisio amddiffyn plant, ond mae yna ffordd bell i fynd.
"Mae ffigyrau'r heddlu yn achos pryder, yn arbennig gan fod nifer o'r dioddefwyr mor ifanc.
Dywed yr NSPCC eu bod wedi gwneud cais rhyddid gwybodaeth i heddluoedd yng Nghymru a Lloegr er mwyn cael y ffigyrau.
Adnabod
Roedd yna 1,282 o droseddau rhyw yn erbyn plant wedi eu cofnodi yng Nghymru. O'r rhain, roedd 1,061 o'r troseddau yn erbyn merched.
Ychwanegodd Mr Mannion: "Mae'n ffaith fod y rhan fwyaf o blant yn cael eu camdrin gan rywun maen nhw'n ei adnabod. Felly mae'n hanfodol ein bod yn dweud wrth blant nad yw'n iawn i unrhyw un eu cyffwrdd mewn mannau preifat."
Yng Nghymru a Lloegr fe gafodd 5,547 o droseddau rhyw eu cofnodi yn erbyn plant dan 11 - cynnydd o 16% ar y flwyddyn flaenorol.
Roedd yna gyfanswm o 22,654 o droseddau rhyw yn erbyn pobl ifanc a phlant dan 18 - gostyngiad bach ar y flwyddyn flaenorol.
O'r rhain roedd 77% o droseddau yn erbyn merched.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2013

- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2013

- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2012
