Llofruddiaeth: Cyhoeddi enw'r dyn fu farw
- Cyhoeddwyd

Roedd Ian Davies yn 27 oed
Mae heddlu wedi cyhoeddi enw'r dyn fu farw yn dilyn ymosodiad honedig yn Nhrecelyn dros y penwythnos.
Roedd Ian Davies yn 27 oed.
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod nhw wedi cael eu galw i ddigwyddiad ar Ffordd Marshfield yn Nhrinant tua 7.30yh nos Sadwrn wedi adroddiadau o ymosodiad.
Fore Sul, cafodd pedwar person - dau ddyn 26 oed a dwy ddynes 22 a 30 oed - eu harestio dan amheuaeth o lofruddiaeth. Maen nhw'n parhau i fod yn y ddalfa.
Gall unrhywun sydd gyda gwybodaeth am y digwyddiad neu oedd yn yr ardal ar y pryd gysylltu â Heddlu Gwent drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod '384 11/1/14'.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2014