Abertawe'n disgwyl chwaraewyr yn ôl
- Cyhoeddwyd

Mae gobaith y bydd Michu'n dechrau rhedeg eto'r wythnos nesa'
Mae disgwyl i o leia' ddau yn nhîm Abertawe chwarae'r penwythnos hwn yn erbyn Tottenham Hotspur wedi anafiadau.
Yn ddiweddar, mae carfan yr Elyrch wedi dioddef nifer o anafiadau ond bydd y cefnwr, Dwight Tiendalli yn ymarfer am y tro cynta' ers problem gyda llinyn y gar ddydd Iau.
Yn ogystal, bu Roland Lamah yn cymryd rhan mewn sesiwn ddydd Mercher wrth iddo wella o anaf i gyhyr yn ei glun.
Mewn neges ar wefan y clwb dywedodd Abertawe y byddai'n bosib gweld dau arall - Pablo Hernandez a Nathan Dyer - yn eu holau'n fuan wedi anafiadau i linyn y gar a'r ffêr.
Fydd Jonathan de Duzman ddim yn y gêm y penwythnos hwn oherwydd yr anaf i'w ffêr.

Mae Vorm wedi cal llawdriniaeth ar anaf oedd yn ei boeni ers tro
Gobaith i Vorm?
Gobaith Abertawe yw y bydd y golgeidwad Michael Vorm yn dychwelyd ar gyfer gêm pedwaredd rownd Cwpan yr FA yn Birmingham wedi llawdriniaeth ar ei benglin.
Dywedodd y clwb fod Michu hefyd yn gwella yn dilyn llawdriniaeth ar ei ffêr ac mae disgwyl iddo ddechrau rhedeg eto'r wythnos nesa'.
Ond mae nhw'n dal i aros i weld pa mor ddifrifol yw'r anaf i ffêr Jose Canas yn y gêm yn erbyn Manchester United y pewythnos diwethaf.
Mae Garry Monk yn parhau i ddioddef o anaf i'w benglin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2013
