Astudiaeth ar bosibilrwydd gwella ffyrdd Llangefni
- Cyhoeddwyd

Astudiaeth i wella trafnidiaeth yn Llangefni, Ynys Môn wedi dechrau
Gall ffordd newydd gael ei adeiladu yn Llangefni fel ymateb tymor hir ar gyfer lleihau tagfeydd a delio gyda chynlluniau i greu gwaith yno.
Mae astudiaeth o'r ffyrdd o gwmpas Llangefni wedi dechrau er mwyn gweld os yw hyn yn bosibilrwydd.
Mi fydd yr astudiaeth yn edrych ar sut i gryfhau cysylltiadau'r dref gyda ffordd ddeuol yr A55 ac yn edrych ar wella mynediad i gampws Coleg Menai yn y dref a safleoedd eraill y gallent gael eu datblygu fel rhan o Ardal Fenter.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn ariannu'r astudiaeth a elwir yn "ymarferiad cwmpasu."
"Canolfan allweddol"
Yn ôl y Cyngor Sir Ynys Môn gall ffordd gyswllt newydd arwain at nifer o "fanteision sylweddol," gan gynnwys creu swyddi newydd, cyfleusterau hyfforddi modern ychwanegol, a buddiannau adfywio economaidd ehangach.
Dywedodd Pennaeth Adfywio Economaidd a Chymunedol Môn, Dylan Williams, "Mae Llangefni'n ganolfan allweddol o safbwynt cyflogaeth i'r Ynys a'r dref mewn sefyllfa dda i chwarae rhan yn y Rhaglen Ardal Fenter fydd yn hybu twf economaidd i'r dyfodol.
"Bydd y gwaith cychwynnol yma'n ystyried opsiynau all ymateb i'r anghenion trafnidiaeth hir dymor, ac yn llywio'r broses o wneud penderfyniadau yn y dyfodol."
Meddai llefarydd ar ran y Cyngor: "Bydd gwaith, yn canolbwyntio ar gysylltu Lôn Bryn Cefni (sydd yn mynd trwy stad ddiwydiannol y dref) i safle Coleg Menai.
"Bydd canlyniadau'r astudiaeth ac arolygon eraill yn dewis llwybr posib ac opsiynau ar gyfer ystyriaeth bellach."
Trafod
Mi fydd Cyngor Tref Llangefni yn trafod y cynlluniau yn yr wythnosau nesaf.
Meddai Arnold Milburn, Clerc Cyngor Tref Llangefni: "Mi fydd hyn cael ei drafod gan aelodau ond mi fydd angen mwy o wybodaeth.
"Mae yna son ers tro bod ffordd newydd yn rhan o'r strategaeth i'r dref, mae o yn rhywbeth sydd wedi bod ar yr agenda yma yn Llangefni ers blynyddoedd."
Disgwylir cwblhau'r gwaith erbyn y gwanwyn.