Dyn wedi dianc o'r carchar
- Cyhoeddwyd

Mae gan Mr Woodward gysylltiadau yn ardal Lincoln
Mae troseddwr 44 oed wedi ffoi o garchar Prescoed ger Brynbuga yn Sir Fynwy, ac mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth er mwyn dod o hyd iddo.
Fe wnaeth Christopher Woodward, sydd hefyd yn galw'i hun yn Christopher Hunter, ddianc am chwarter i naw fore Gwener.
Cafodd ei garcharu wedi i lys ei gael yn euog o ddynladdiad yn Sir Lincoln 'nôl yn 1999.
Mae Heddlu Gwent yn dweud nad ydy o'n droseddwr rhyw.
Maen nhw'n ei ddisgrifio fel dyn croenwyn, 5 troedfedd 10 modfedd sydd â gwallt brown, byr a llygaid glas.
Pan aeth ar goll roedd wedi ei eillio'n lan ac yn gwisgo jîns glas, esgidiau glas a siaced ddu.
Dylai unrhyw un sydd yn ei weld gysylltu â'r heddlu ar 101.