Gleision 13-19 Caerwysg
- Cyhoeddwyd

Alex Cuthbert yn gwibio cyn croesi ar gyfer cais
Mae'r Gleision wedi colli o chwe phwynt yng Nghwpan Heineken yn y glaw dibaid ar Barc yr Arfau.
Roedd mwy na 12,000 yn gwylio, record ers i'r tîm symud yn ôl i Barc yr Arfau.
Un tîm oedd ynddi yn yr hanner cynta' a'r Cymry'n cysgu oherwydd pwysau parhaol. Weithiau roedd amddiffyn y Gleision ar chwâl.
Dim ond wedi chwarter awr o chwarae y camodd y Cymry i mewn i hanner Caerwysg.
Don Armand o ail reng y Saeson wthiodd drosodd wedi sgarmes rydd a throsodd y Gwyddel Gareth Steenson.
Ychydig cyn yr egwyl roedd symudiad pert, Chris Dicomidis yn torri ar y dde a'r blaenasgellwr Ellis Jenkins fwydodd Alex Cuthbert redodd fel milgi a chroesi o dan y pyst.
Yn yr ail hanner roedd cic bwysig i Leigh Halfpenny chwarter awr cyn y diwedd o dair medr i mewn i hanner Caerwysg ond fe fethodd.
Ychydig cyn y diwedd anelodd y maswr Gareth Davies at y pyst ond roedd ei ymdrech yn ofer.
Wedyn ciciodd Steenson o Gaerwysg gic gosb, yr hoelen ola' yn yr arch.