Tân yn Llanelli: Saith yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae saith aelod o'r un teulu wedi cael triniaeth yn yr ysbyty am effeithiau mwg wedi tân fore Sul.
Aed â dau oedolyn a saith o blant i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin wedi'r tân yn Llanelli ddechreuodd am 7.30am.
Mae ymchwiliad ar y gweill i'r tân oedd mewn atig yn Llwynhendy.
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans fod tri ambiwlans wedi mynd â'r teulu i'r ysbyty.