Damwain: Pedwar wedi eu hanafu
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar yn yr ysbyty oherwydd damwain ar yr M4 fore Sul ger Abertawe.
Un car oedd yn y ddamwain ger Cyffordd 47 (Penllergaer) ychydig cyn 11am.
Mae dyn, menyw a dau o blant yn yr ysbyty.
Dywedodd yr heddlu fod anafiadau'r gyrrwr yn ddifrifol.
Cafodd rhan o'r draffordd ei chau cyn ailagor ychydig cyn 4pm a dylai tystion ffonio'r heddlu ar 101.