Cais i ddymchwel fflat Nikitta Grender
- Cyhoeddwyd

Nikitta Grender
Fe allai fflat lle gafodd merch feichiog 19 oed ei llofruddio gael ei ddymchwel.
Mae'r adeilad yng Nghasnewydd wedi bod yn wag ers bron i dair blynedd wedi llofruddiaeth Nikitta Grender.
Cafodd Carl Whant, 28, ei garcharu am 35 o flynyddoedd am lofruddio Ms Grender, a oedd yn disgwyl babi ymhen pythefnos.
Ar ôl ei llofruddio fe wnaeth Whant roi'r adeilad ar dân.
Nawr mae cymdeithas dai Newport City Homes, perchnogion y fflat, wedi gwneud cais am ganiatâd i'w ddymchwel.
Mae rhieni Ms Grender a'i chariad hefyd wedi galw am ddymchwel yr adeilad.
Cefnogi'r cais
Dywedodd y cynghorydd Allan Morris, ei fod yn cefnogi'r cais.

Fe fyddai'r fflat yn cael ei ddymchwel eleni
"Mae wedi bod yn gyfnod anodd ond mae'r penderfyniad yn parchu dymuniad teulu Nikitta a nawr gobeithio ei fod yn rhoi cyfle i symud ymlaen."
Pe bai yna ganiatâd cynllunio, fe allai'r fflat ac adeilad cyfagos gael eu dymchwel yn ddiweddarach eleni.
Mae'n bosib y bydd adeilad newydd yn cael ei godi ar y safle.
Cafodd Whant ei garcharu yn Chwefror 2011 am lofruddiaeth, treisio, dinistrio babi a chynnau tân.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2012

- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2012

- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012

- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012

- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012