Damwain rhwng lori a bws ysgol
- Cyhoeddwyd
Cafodd 60 o blant ysgol gynradd eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng lori a bws ysgol ar yr A48 yng Nghasnewydd.
Dywedodd Anne Carlyle, prifathrawes Ysgol Pentrepoeth, fod y plant yn dychwelyd o drip i'r pwll nofio.
"Cafodd y plant eu rhyddhau o'r ysbyty a ni chafodd unrhyw un unrhyw niwed," meddai.
"Fe roedd athrawon yn cadw cwmni ac yn gofalu am y plant drwy gydol y digwyddiad."