Cynghorwyr yn cadarnhau cau Ysgol Llanbedr
- Cyhoeddwyd

Roedd y penderfyniad i gau Ysgol Llanbedr yn un dadleuol.
Mae cynghorwyr Sir Ddinbych wedi penderfynu i beidio ag anfon y penderfyniad i gau Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd ger Rhuthun yn ôl at y cabinet i'w ail-ystyried.
Roedd y penderfyniad yn cael ei drafod gan Bwyllgor Craffu'r Cyngor wedi i nifer o gynghorwyr ddadlau na chafwyd ymgynghoriad llawn ar y mater.
Ar ôl trafod dwys, fe benderfynodd y pwyllgor bod ymgynghori addas wedi bod ac y bydd yr ysgol yn cau.
Penderfyniad dadleuol
Roedd cabinet cyngor Sir Ddinbych wedi penderfynu, ar Ionawr 14, i roi rhybudd stadudol i gau'r ysgol ffydd ar Awst 31, 2014 ac i drosglwyddo'r plant i Ysgol Borthyn yn Rhuthun.
Ond roedd rhai cynghorwyr yn teimlo nad oedd yr ymgynghori wedi bod yn ddigonol ac yn dylid ail-edrych ar y penderfyniad.

Roedd 1,210 o bobl leol wedi arwyddo deiseb yn erbyn cynlluniau i gau'r safle, ac roedd 85 o wrthwynebiadau i gynllun y cyngor.
Roedd y penderfyniad i gau Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd yn un dadleuol, roedd 1,210 o bobl leol wedi arwyddo deiseb yn erbyn cynlluniau i gau'r safle, ac roedd 85 o wrthwynebiadau i gynllun y cyngor.
Mae 21 o ddisgyblion llawn amser yn mynychu'r ysgol Eglwys yng Nghymru ar hyn o bryd, a 7 yn rhan amser.
Roedd disgwyl i niferoedd gynyddu dros y blynyddoedd nesaf, ond penderfynodd y cyngor byddai llefydd gwag yn effeithio ar gynaladwyedd yr ysgol yn y tymor hir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2014
