Carchar i leidr gyda morthwyl
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wnaeth ddwyn arian, cyffuriau a chyllell o fflat gwerthwr cyffuriau wedi cael ei garcharu am chwe blynedd.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod Matthew Sykes wedi symud o Plymouth i ogledd Cymru.
Dywedodd yr erlynydd Wyn Lloyd Jones bod dyn o'r enw Antonio Lyon wedi gwerthu cyffuriau i Sykes ar noson Hydref 21 y llynedd.
Yn ddiweddarach aeth Sykes i fflat Mr Lyon yn Hen Golwyn gan ei fygwth gyda morthwyl a mynnu cael arian.
Gadawodd y fflat gyda £300-£400, rhywfaint o ganabis, tri ffôn symudol a chyllell addurniadol.
Cafodd ei arestio'n ddiweddarach yn fflat ei gefnder yn Abergele.
Wrth ei ddedfrydu dywedodd y barnwr Huw Rees: "Roedd hon yn drosedd ddifrifol, ac yn dresbasiad treisiol bwriadol."