Cwpan LV: Diwrnod gwael i Gymru
- Cyhoeddwyd

Dreigiau 16-34 Northampton
Y Dreigiau gafodd y grasfa waethaf o blith rhanbarthau Cymru wrth golli gartref yn erbyn Northampton.
Roedd y Dreigiau ar y blaen ar yr egwyl o 16-15 diolch i gais gan y mewnwr Jones a chicio cywir Jason Tovey.
Ond roedd hi'n stori wahanol yn yr ail hanner wrth i Northampton sgorio cais ar ôl cais i sicrhau'r fuddugoliaeth.
Caerfaddon 24-13 Gleision
Dim ond dwy gôl gosb gafodd y Gleision am eu hymdrechion ar eu taith i Gaerfaddon ddydd Sadwrn.
Roedd y tîm cartref yn drech na'r ymwelwyr ymhob agwedd o'r chwarae, ac roedd un o'r sgorwyr yn halen ar y briw i dîm y brifddinas.
Sgoriwr trydydd cais Caerfaddon oedd Gavin Henson, a ddaeth i'r maes fel eilydd yn yr ail hanner.
Caerwysg 36-22 Gweilch
Roedd yna Gymro arall ymhlith y sgorwyr i Gaerwysg yn erbyn y Gweilch hefyd.
Ceri Sweeney oedd y ciciwr i'r tîm cartref, ac fe sgoriodd naw pwynt gyda thri throsiad a gôl gosb.
Ond yn bwysicach, fe sgoriodd y tîm cartref bum cais yn erbyn pedwar y Gweilch i gwblhau penwythnos siomedig i dimau Cymru yng Nghwpan LV=.
Scarlets 13-7 Caerloyw (Nos Wener)
Daeth buddugoliaeth bwysig i'r Scarlets yn erbyn Caerloyw mewn gêm agos yng Nghwpan LV= nos Wener.
Cyn y gêm, fe gafwyd munud o ddistawrwydd fel teyrnged i Hefin Jenkins - cyn wythwr Llanelli - a fu farw ddydd Gwener yn 63 oed.
Roedd yr hanner cyntaf yn agos dros ben, ac unig sgor yr hanner oedd pan groesodd Steffan Hughes am gais i roi'r tîm cartref 5-0 ar y blaen ar yr egwyl.
Daeth Hughes o'r academi ar Barc y Scarlets a hwn oedd ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm cyntaf.
Yn ôl y disgwyl fe ddaeth yr ymwelwyr yn ôl, ac fe groesodd Billy Burns am gais. Roedd Burns hefyd yn llwyddiannus gyda'r trosiad i roi Caerloyw ar y blaen o 7-5 wedi awr o chwarae.
Cyn pen dim roedd y Scarlets yn ôl ar y blaen wrth i Josh Lewis lwyddo gyda gôl gosb.
Sicrhawyd y fuddugoliaeth gyda dau funud o chwarae'n wedill pan groesodd Aaron Warren am gais. Er na lwyddodd Lewis gyda'r trosiad, roedd y sgôr yn ddigon i sicrhau'r pwyntiau i'r tîm cartref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2014
