Rhoi cais parlwr godro ger Y Trallwng o'r neilltu
- Cyhoeddwyd

Yn Hydref roedd Mr Jones yn falch fod y llywodraeth wedi cydnabod cryfder ei gais
Mae cais ffarmwr i godi parlwr godro i 1,000 o wartheg wedi ei roi o'r neilltu am fod mudiad dros ofal anifeiliaid wedi cael adolygiad barnwrol.
Yn Hydref 2013 roedd Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cynllun Fraser Jones yn Nhre'r-llai ger Y Trallwng, ond mae'r World Society for the Protection of Animals wedi ennill yr hawl i'w herio.
Fe all yr adolygiad gymryd blwyddyn a dywedodd Mr Jones ei fod yn "cael cam".
Mae Simon Pope, cyfarwyddwr ymgyrchoedd a chyfathrebu'r mudiad, wedi dweud: "Byddwn yn herio'r broses benderfynu arweiniodd at gymeradwyo'r cynllun.
'Yn bwysig'
"Mae ymhlygiadau'r cynllun yn bwysig i'r diwydiant llaeth, nid yn unig yng Nghymru ond trwy wledydd Prydain."
Roedd y llywodraeth wedi cynnal ymchwiliad i ystyried ddylai'r cais gael ei gefnogi ar ôl i Gyngor Powys ei wrthod yn wreiddiol.
Ym mis Hydref dywedodd Mr Jones ei fod yn falch fod y Gweinidog Tai Carl Sargeant wedi cymeradwyo ei gais i ehangu ei fusnes.
Cafodd ymchwiliad wyth diwrnod ei gynnal ym mis Mawrth er mwyn asesu rhai o'r pryderon roedd pobl leol wedi eu codi.
Roedd y rhain yn cynnwys sŵn, pryfaid, llygredd, mwy o draffig, ynghyd â maint ac effaith weledol y datblygiad, yn ogystal â'r arogl sy'n dod o'r 300 o wartheg sydd eisoes ar y safle, gan nodi bod y safle'n agos i gartrefi ac ysgol leol.
Yn amodol
Cafodd y cais ei ganiatáu'n amodol gan bwyllgor cynllunio Cyngor Powys yn Nhachwedd 2011.
Ond cafodd y mater ei drafod eto ym mis Hydref 2012 oherwydd newidiadau i gyfansoddiad ac aelodaeth pwyllgorau'r cyngor, ac fe gafodd y cais ei wrthod.
Gorchmynnodd Llywodraeth Cymru y dylid cynnal ymchwiliad cyhoeddus ym mis Ionawr y llynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2013

- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2013
