Ystyried sefydlu banc newydd
- Cyhoeddwyd

Byddai Cyllid Cymru yn rhan o unrhyw fanc datblygu newydd wedi i adolygiad awgrymu nad oedd yn addas i'w bwrpas
Mae'r Gweinidog Busnes, Edwina Hart, wedi cymeradwyo gwaith i ystyried sefydlu banc masnachol o dan adain y wladwriaeth.
Byddai Banc Datblygu Cymru yn gweithredu er mwyn cynnig cymorth ariannol i fusnesau.
Roedd sefydlu'r corff yn un o argymhellion adolygiad i gyllid i fusnesau a wnaed gan yr Athro Dylan Jones Evans yn 2013.
Fe fyddai banc buddsoddi Llywodraeth Cymru - Cyllid Cymru - yn dod yn rhan o'r sefydliad newydd.
Roedd ail ran adroddiad yr Athro Jones Evans yn feirniadol iawn o Cyllid Cymru gan awgrymu nad oedd yn addas i'w bwrpas.
Llog uwch
Dywedodd ail ran ei adroddiad ym mis Tachwedd:
"Yn ôl y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r adolygiad, mae Cyllid Cymru yn cynnig graddfeydd uwch o log ar fenthyciadau i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru nag sy'n ofynnol o dan ganllawiau'r Undeb Ewropeaidd ar gymorth y wladwriaeth.
"Mae'r dystiolaeth hefyd yn awgrymu nad yw Cyllid Cymru yn defnyddio'r ystod lawn o arfau ariannol sydd ar gael o dan reoliadau Ewrop."
Un o brif argymhellion yr adroddiad oedd sefydlu Banc Datblygu Cymru fyddai'n crynhoi'r holl gynlluniau cefnogaeth i fusnesau bach a chanolig (BBaCh) sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, y cronfeydd sy'n cael eu rheoli gan Cyllid Cymru ac elfennau o Busnes Cymru ynghyd â chynlluniau gan lywodraeth y DU.
Yn dilyn cyfnod ymgynghori byr ar adroddiad yr Athro Jones Evans (a ddaeth i ben ar Ragfyr 6), mae Ms Hart wedi cyhoeddi'r cam cyntaf ymlaen ddydd Mercher.
'Croesawu'r adolygiad'
Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi croesawu'r cyhoeddiad.
Dywedodd eu pennaeth materion allanol Iestyn Davies: "Fe wnaeth adroddiad yr Athro Dylan Jones-Evans daflu goleui ar yr hyn oedd yn digwydd o fewn Cyllid Cymru a'r cyfradd llog chwyddedig maen nhw wedi bod yn godi ar ein haelodau.
"Rydym yn sicr o blaid diwygio Cyllid Cymru er mwyn sicrhau ei fod yn darparu benthyciadau fforddiadwy i fusnesau bach a'i fod yn cael ei ddwyn i gyfrif gyda mwy o dryloywdera gyda mwy o gyfle i'w graffu na sy'n digwydd ar hyn o bryd.
"Rydym yn credu bod y syniad o gael Banc Datblygu i Gymru yn haeddu cael ei ystyried yn ofalus ac rydym yn croesawu adolygiad i sut byddai banc o'r fath yn gweithio.
"Mae'n bosib y gallai sefydliad wedi ei ddiwygio wasanaethu anghenion busnesau bach yn well gan hefyd ddarparu ffordd i fynd i'r afael a materion ariannol sy'n atal pobl rhag mynd i'r byd busnes."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2013

- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2013

- Cyhoeddwyd21 Hydref 2013

- Cyhoeddwyd2 Hydref 2013
