Plant 12 oed yn profi cyffuriau 'cyfreithlon'
- Cyhoeddwyd

Mae prosiect wedi'i sefydlu i brofi pa gemegion sydd yn y cyffuriau 'cyfreithlon' hyn.
Mae plant mor ifanc â 12 oed yng Nghymru yn profi cyffuriau 'cyfreithlon' sy'n cael effaith tebyg i ganabis ac ecstasi, yn ôl grwp cymorth i bobl sy'n gaeth i gyffuriau.
Mae Cynllun Atal Cyffuriau (DIP) Gwent yng Nghwmbran yn dweud bod tystiolaeth yn dangos bod y broblem ar gynnydd.
Yn y cyfamser, mae prosiect newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi'i sefydlu i geisio rhybuddio pobl am eu peryglon.
Mae 'Wedi Nos' yn profi samplau anhysbys sydd wedi'u hanfon gan ddefnyddwyr er mwyn adnabod pa gemegion sydd ynddyn nhw.
Ond mae beirniaid y cynllun yn teimlo ei fod yn wastraff arian ac y gallai gael ei gamddefnyddio gan werthwyr cyffuriau.
Be ydy cyffuriau 'cyfreithlon'?
Mae 'na oddeutu 600 o dramgwyddau troseddol yn bodoli o dan y gyfraith camdrin cyffuriau ond mae amcangyfrif bod miloedd o gyffuriau 'cyfreithlon'.
Yn gemegol, mae nhw'n debyg i gyffuriau anghyfreithlon, ond mae nhw wedi cael eu newid i'w gwneud yn gyfreithlon.

Mae 'na filoedd o gyffuriau 'cyfreithlon' yn bodoli.
Yn costio tua £8 y gram mewn siopau, mae modd eu prynu dros y we hefyd, ac mae nhw'n cael eu labeli fel 'cemegion ymchwil', 'arogldarth llysieuol' neu 'ddim yn addas i'w fwyta'.
Ychydig iawn o ddata swyddogol sydd ar faint o bobl sy'n datblygu problemau gyda'r rhain, ond mae grwp Gwent yn dweud bod 15% o gynnydd wedi bod yn y bobl sy'n cael eu cyfeirio atyn nhw rhwng Ebrill a Medi y llynedd.
Mae pennaeth y grwp cymorth yn poeni bod plant a phobl ifanc yn profi'r cemegion gan eu bod mor hawdd i gael gafael ynddyn nhw.
Fe ddaeth y broblem fwy fwy i'r amlwg y llynedd, meddai Lyn Webber, pan roedd llai o bobl yn nalfa'r heddlu wedi profi'n bositif i fod dan ddylanwad cyffuriau anghyfreithlon ond roedden nhw'n dangos symptomau o fod dan ddylanwad.
Rhwng 2012 a 2013, roedd DIP Gwent wedi profi 500 bobl yn y ddalfa ac roedd 69% ohonyn nhw dan ddylanwad cyffuriau 'cyfreithlon'.
O'r rheiny, doedd 76% ohonyn nhw heb gysylltu ag unrhyw wasanaeth cyffuriau o'r blaen.
Be sy'n digwydd WEDI NOS?
Cymru yw'r wlad gyntaf i sefydlu gwasanaeth profi cyffuriau.
Mae'r prosiect 'Wedi Nos', sy'n cael ei redeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn profi pa gemegion sydd yn y cyffuriau sy'n cael eu hanfon atyn nhw yn anhysbys, boed y rheiny'n rhai 'cyfreithlon' neu'n anghyfreithlon.
Mae canlyniadau'r profion yn cael eu cyhoeddi ar eu gwefan, gyda rhif cyfeirnod.

Unwaith mae un sylwedd yn cael ei wahardd, mae cynhyrchwyr yn gallu newid y côd cemegol i wneud cynnyrch tebyg iawn sydd, yn dechnegol, yn 'gyfreithlon' eto.
Y cyfan sydd ei angen yw côd post, ac felly dydy enw'r defnyddiwr byth yn cael ei ddatgelu.
Bydd yn cael ei ddefnyddio gan weithwyr ym maes iechyd a phroblemau cyffuriau a'r heddlu yn bennaf ond mae hefyd ar gael i'r cyhoedd.
Mae Gweinidog Iechyd Cymru, Mark Drakeford, yn credu bod y gwasanaeth, fydd yn derbyn nawdd o £100,000 y flwyddyn, yn hanfodol i amddiffyn pobl.
"Drwy gynnig gwybodaeth amserol a chywir, gall y gwasanaeth arbed bywydau," meddai.
Ond mae eraill, fel y llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar, yn ddrwgdybus ac yn poeni bod yn cynllun yn "agored i gael ei gam-ddefnyddio gan droseddwyr peryglus sy'n gwerthu cyffuriau niweidiol i dalu am droseddau eraill."
Fe fydd yr heddlu hefyd yn anfon sylweddau anhysbys at Wedi Nos.
Ers lansio ym mis Hydref 2013, mae 150 o samplau wedi cael eu harchwilio yn y labordy, gan ddatgelu 85 o wahanol sylweddau, o caffein i gocên.
Mae cyffuriau 'cyfreithlon' yn anodd iawn i awdurdodau gan bod cymaint mwy ohonyn nhw wedi'u cynhyrchu dros y blynyddoedd diwethaf.
Unwaith y mae un sylwedd yn cael ei wahardd, mae cynhyrchwyr yn gallu newid y côd cemegol i wneud cynnyrch tebyg iawn sydd, yn dechnegol, yn 'gyfreithlon' eto.
Yn ôl un gweithiwr cyffuriau o Gasnewydd sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth, mae'n bwysig iawn i wybod beth sydd yn y cyffuriau.
Dywedodd Dan Rowley," mi roedd un o'r enw Ivory Dove ac Ivory Dove Ultra lle roedd pobl wedi bod yn cael profiadau annisgwyl - cur pen, y dwylo'n ysgwyd a strôc."
Drwy wybod ai symbylydd neu dawelydd ydi'r cyffur, mae'n haws trin y symptomau.