Caerdydd 2 - 1 Norwich
- Cyhoeddwyd

Mae Bellamy, 34, yn dueddol o sgorio goliau pwysig
Mae Caerdydd wedi curo Norwich yn Stadiwm Caerdydd.
Mae'r tri pwynt yn rhai annisgwyl a gwerthfawr i glwb y brifddinas wrth iddyn nhw frwydro i aros yn y gynghriair.
Norwich aeth ar y blaen gyntaf wedi llai na phum munud diolch i gôl Robert Snodgrass wedi iddo lwyddo i wyro croesiad isel Martin Olsson i gefn y rhwyd.
Ac fel yna yr arhosodd pethau nes y 48fed munud.

Bydd cefnogwyr Caerdydd yn gobeithio gweld y dathliad anarferol yma'n amlach
Yr hen ffefryn Craig Bellamy sgoriodd yn dilyn pas gan Wilfried Zaha, sydd ar fenthyg o Manchester United.
Yn ogystal â rhoi rheswm i gefnogwyr Caerdydd ddathlu, torrodd Craig Bellamy record - fo yw'r chwaraewr cyntaf i sgorio i saith clwb gwahanol yn Uwchgynghrair Lloegr.
Llai na dau funud yn ddiweddarach ac roedd yr Adar Gleision ar y blaen. Ac roedd dyn newydd arall i'w ddiolch y tro hwn. Kenwyne Jones wnaeth ei chicio mewn wrth iddo sefyll ger y gôl.
Rhain yw pwyntiau cyntaf Caerdydd o dan arweinyddiaeth Ole Gunnar Solskjær, a'r cwestiwn i Gaerdydd nawr yw os mai eithriad neu'r norm newydd yw'r tri pwynt yma.