Damwain: heddlu'n apelio am dystion
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n apelio am dystion wedi i ddyn 73 oed gael anafiadau difrifol nos Sadwrn.
Roedd y ddamwain yn Shotton, Sir y Fflint.
Tarodd fan Renault Trafic fen y dyn yn Central Drive, Aston, am 6.45pm.
Dywedodd yr heddlu nad oedd ei fywyd mewn perygl.
Dylai tystion ffonio'r Cwnstabl Christensen (601) ar 101, gan ddyfynnu R015433.