Cymorth hofrennydd i drwsio llwybr
- Cyhoeddwyd

Mae'r llwybr 677 metr uwchben lefel y môr.
Fe fydd dros 400 tunnell o gerrig yn cael eu cludo gan hofrennydd i Fannau Brycheiniog er mwyn atgyweirio rhan o lwybr Clawdd Offa.
Dywed Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mai dyma'r ffordd fwyaf hwylus i gludo'r cerrig i fynydd Penybegwn sydd 677 metr (2,220 tr) uwchben lefel y môr.
Mae angen y cerrig oherwydd effaith erydu ar tua dwy filltir o'r llwybr.
Bydd y gwaith o gludo'r cerrig yn cymryd tua pum diwrnod.
Mae'r llwybr ddwy filltir o'r ffordd fawr ac mae natur serth y llwybr yn golygu fod ond modd ei gyrraedd ar droed neu gyda hofrennydd.
Mae'r llwybr rhwng y Gelli Gandryll ym Mhowys a Pandy yn Sir Fynwy. Mae hefyd yn agos i'r ffin gyda sir Henffordd.
Bydd gwirfoddolwyr yn cynorthwyo wardeiniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wrth gwblhau'r gwaith cynnal a chadw
Dywedodd Richard Ball o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: "Hofrennydd oedd y dewis mwyaf addas ar gyfer y gwaith oherwydd y tywydd garw, a natur anghysbell y lleoliad."
Cafodd y cynllun ei ariannu gan Gyfoeth Naturiol Cymru, Natural England ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.