Cyngor yn 'gwerthu' dyled Landsbanki
- Cyhoeddwyd

Roedd Cyngor Sir y Fflint yn un o nifer o gyrff cyhoeddus oedd wedi buddsoddi gyda Landsbanki cyn 2008
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi 'gwerthu' dyled oedd gan fanc Landsbanki (LBI) o Wlad yr Iâ iddyn nhw.
Roedd y banc yn un o nifer aeth i'r wal yn 2008 gyda miliynau o bunnau o arian awdurdodau lleol Cymru yn eu coffrau.
Pan ddigwyddodd y cwymp ariannol roedd wyth o gynghorau lleol Cymru a thri o'r lluoedd heddlu wedi buddsoddi £66 miliwn mewn banciau neu eu his-gwmnïau yng Ngwlad yr Ia.
Cafodd yr arian ei fuddsoddi pan oedd y banciau yn ffynnu cyn y cwymp - ac ar un adeg roedd banciau yn cynnig cyfraddau llog o 18%.
Ers hynny mae cynghorau Castell-nedd Port Talbot a Chaerffili wedi llwyddo i gael tua 60% o'u harian yn ôl, ac mae Heddlu De Cymru wedi derbyn tua hanner y £7 miliwn yr oedden nhw wedi buddsoddi gyda'r banciau.
Ond ddydd Mawrth cyhoeddodd Sir y Fflint eu bod wedi derbyn cyngor cyfreithiol a chyngor ariannol gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol ac wedi gwerthu'r ddyled.
Mae'r arian am y gwerthiant eisoes wedi ei dderbyn gan y cyngor mewn punnoedd Sterling.
Mae'r gwerthiant yn golygu bod Cyngor Sir Fflint wedi derbyn 92% o'r arian a gafodd ei fuddsoddi'n wreiddiol gyda Landsbanki yn 2008.
Dywedodd pennaeth cyllid yr awdurdod Kerry Feather:
"Fe gafodd ein hawliau am ad-daliad eu gwerthu drwy broses ocsiwn cystadleuol. Roedd y pris yn seiliedig ar ffigwr a osodwyd gan y Cyngor ar sail cyngor cyfreithiol ac ariannol, a thrwy ein dadansoddiad ein hunain o'r sefyllfa ariannol.
"Mae'r gwerthiant yn golygu troi dalen newydd. Nid yw Cyngor Sir y Fflint bellach yn gredydwyr i LBI."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2012
