Bangor allan o Gwpan Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Bangor allan o Gwpan Cymru am dymor arall
Mae Bangor allan o Gwpan Cymru ar ôl colli i Airbus UK Brychdyn yn y bedwaredd rownd nos Fawrth.
Er mai Airbus oedd y tîm 'cartref' fe gafodd y gêm ei symud i Nantporth oherwydd cyflwr y cae ym Mrychdyn.
Cafodd y ddau dîm ddigon o gyfleoedd, a bu golwr Bangor Lee Idzi - oedd yn chwarae ei gêm olaf i'r clwb cyn gadael - yn brysur.
Ond aeth Airbus ar y blaen o fewn yr hanner awr gyntaf diolch i gôl gan Tom Field.
Roedd yr ail hanner yn ddigon tebyg gyda'r ddau dîm yn creu cyfleoedd, ond gyda chyfuniad o amddiffyn da gan Fangor a'r un tîm yn methu cyfleoedd y pen arall fe arhosodd hi'n 1-0.
Ond yna gyda 79 munud wedi chwarae fe ychwanegodd Airbus yr ail gôl i sicrhau eu lle yn y rownd nesaf.
Tom Field unwaith eto oedd y sgoriwr.