Marw yng Ngharchar y Parc: rhoi gwybod i'r teulu anghywir
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth cwmni diogelwch G4S ddweud wrth y teulu anghywir fod perthynas wedi marw yn y carchar.
Bu farw Mohamoud Ali yn ei gell yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr fore Sadwrn ac mae ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Mae G4S wedi ymddiheuro am y camgymeriad.
Dywedodd y cwmni mewn datganiad: "Mae marwolaeth yn y ddalfa yn golygu amser anodd iawn i'r teulu ac rydym yn gwneud pob ymdrech bosib' i sicrhau bod y teulu agosaf yn cael gwybod yn gyflym a bod hyn yn sensitif iawn.
"Mae'r hyn ddigwyddodd ddydd Sadwrn yn hollol annerbyniol ac rydym wedi cysylltu gyda'r teulu (gafodd y wybodaeth anghywir) fel eu bod yn derbyn ymddiheuriad personol."
Cafodd cwest ei agor a'i ohirio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2014
