Clwb Pêl-droed Aber yn colli eu hapêl
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Aberystwyth wedi colli eu hapêl yn erbyn y penderfyniad i dynnu tri o bwyntiau oddi arnynt.
Mae hyn yn golygu bod eu gobeithion o orffen yn y chwech uchaf drosodd, am y tymor hwn beth bynnag.
Roedd Cymdeithas bêl-droed Cymru wedi penderfynu tynnu tri o bwyntiau a rhoi dirwy o £250 i'r clwb am iddyn nhw roi gêm i chwaraewr oedd wedi cael ei wahardd.
Mae'r penderfyniad yn golygu eu bod dau bwynt tu ôl i Rhyl ar ôl 22 gem gyntaf y tymor.
Bydd y gynghrair nawr yn rhannu'n ddwy ar gyfer gweddill y tymor, gyda'r chwech uchaf yn chwarae ei gilydd ddwywaith a'r chwech isaf yn gwneud yr un fath.
Nid oes posib i dîm sydd yn yr hanner gwaelod orffen yn uwch na seithfed.
Dywedodd Cymdeithas bêl-droed Cymru: "Penderfynodd y panel apêl ddiystyru apêl Aberystwyth ac y byddai'r gosb wreiddiol yn sefyll."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2014

- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2014
