Ail agor rhan o rheilffordd Cambria wedi'r stormydd diweddar
- Cyhoeddwyd

Roedd rhaid symud y cerbydau drwy'r Bermo ar ôl iddyn nhw fynd yn sownd yn y llifogydd
Mae'r rheilffordd rhwng Cyffordd Dyfi a'r Bermo a gafodd ei ddifrodi gan stormydd ym mis Ionawr wedi ail agor ddydd Llun.
Fe wnaeth y gwynt a'r llanw uchel ddifrodi amddiffynfeydd wrth ymyl y môr gan adael cerrig a llanast ar lwybr y rheilffordd.
Cred Network Rail y bydd yr holl waith atgyweirio yn costio tua £10 miliwn.
Mae disgwyl i'r gwaith o drwsio'r rheilffordd rhwng Pwllheli a Bermo barhau tan ganol mis Mai.
Yn ôl Rheolwr Gyfarwyddwr llwybr Network Rail, Mark Langman, mae'r gwaith atgyweirio wedi mynd rhagddo er gwaetha'r tywydd garw diweddar a chyfnodau o lanw uchel.
"Mae pobl yr ardal yn dibynnu ar y rheilffordd a'r flanoriaeth gyntaf oedd llunio cynllun i sicrhau bod y rheilffordd yn agor cynt cynted â bod modd gwneud hynny yn ddiogel.
"Mae'r cynllun wedi gweld gweithwyr yn gweithio mewn amgylchiadau anodd iawn, ac mae'n newyddion da iawn ein bod yn gallu ail agor rhan o'r rheilffordd.
Ychwanegodd Mr Langman fod y tywydd garw diweddar wedi tanlinellu pwysigrwydd cynlluniau da er mwyn rheoli 34 milltir o amddiffynfeydd y môr.

Cafodd y tren ei symud i Gaer wedi difrod i Lein y Cambria
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2014
