Pencampwraig codi arian o Lanrug
Mae merch o Lanrug wedi bod yn eithriadol o weithgar yn codi arian.
Dros y blynyddoedd mae Haf Thomas, o Lanrug, wedi llwyddo i godi £45,000 i wahanol elusenau.
Ond does dim bwriad ganddi i roi ei thraed i fyny, fel y bu'n dweud wrth ein gohebydd, Dafydd Gwynn.