Mam ag iselder a laddodd fabi yn rhydd i adael y llys
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gwrandawiad dedfrydu ei gynnal yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau
Mae adolygiad wedi cael ei orchymyn i achos mam a laddodd ei merch fach yn 2006 ar ôl dioddef o iselder ôl-enedigol difrifol.
Cafodd y fam o ardal Abertawe orchymyn cymunedol wedi iddi gael ei dedfrydu am fabanladdiad (infanticide) ac ymosodiad difrifol ar ail blentyn.
Clywodd y llys fod yr achos yn un "eithriadol".
Roedd Llys y Goron Abertawe wedi clywed bod y ferch fach wedi marw ar ôl cael ei hysgwyd gan ei mam rai wythnosau wedi iddi gael ei geni.
Ganed ail blentyn yn ddiweddarach, ac fe ddioddefodd y babi yna hefyd anafiadau i'r ymennydd, coes a braich ar ôl cael ei siglo, ond goroesodd.
Ym mis Rhagfyr y llynedd cyfaddefodd y fam, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, i gyhuddiadau o fabanladdiad ac achosi niwed corfforol difrifol.
Dau adroddiad
Yn ystod y gwrandawiad dedfrydu ddydd Iau, clywodd y llys fod y fam wedi dioddef o salwch meddwl difrifol, sef iselder ôl-enedigol difrifol.
Roedd dau seiciatrydd wedi ysgrifennu adroddiadau am gyflwr meddygol y fam.
Dywedodd y barnwr Mr Ustus Wyn Williams fod achosion o'r fath yn "anhygoel o anodd a sensitif".
Dywedodd Elwen Evans QC ar ran yr amddiffyniad fod gan yr achos "hanes hir iawn, cymhleth a chwbl eithriadol".
Dywedodd wrth y llys fod dedfryd o garchar yn brin iawn o dan amgylchiadau o'r fath.
Ychwanegodd y barnwr fod y fam wedi pledio'n euog i fabanladdiad ac achosi niwed corfforol difrifol ar y cyfle cyntaf.
Gwrandawodd y fam yn ei dagrau wrth i'r barnwr ddweud bod ei "beiusrwydd (culpability) am ei gweithredoedd yn isel" ac y byddai yn "gwbl anghymesur" i bennu dedfryd o garchar.
Dywedodd Mr Ustus Wyn Williams y dylai'r fam fod yn destun gorchymyn cymunedol ynghyd â gorchymyn goruchwylio am dair blynedd, a'i bod yn rhydd i adael y llys.
Adolygiad
Yn ystod y gwrandawiad clywodd y llys fod blynyddoedd wedi mynd heibio cyn i'r heddlu dderbyn adroddiadau manwl am yr achos a bod y ddynes wedi ei chyhuddo ym mis Chwefror y llynedd.
Mewn gwrandawiad arall yn ymwneud â'r achos yn y llys teuluol fis diwethaf, roedd Mr Ustus Moor wedi beirniadu Heddlu'r De am yr hyn y galwodd yn oedi "anesgusodol".
Ddydd Iau cyhoeddodd Bwrdd Diogelu Plant Western Bay, sy'n cynrychioli'r holl asiantaethau sy'n ymwneud â gwarchod plant, y bydd adolygiad o'r achos yn cael ei gynnal gan arbenigwr annibynnol.
Bydd canlyniadau'r adolygiad yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.