Gweilch 75 - 7 Treviso
- Cyhoeddwyd

Doedd Treviso methu a chystadlu gyda'r tîm cartref brynhawn Sul
Llwyddodd y Gweilch i sgorio 11 cais wrth chwarae Treviso yn y Pro12 ddydd Sul.
Roedd yr ymwelwyr i Abertawe heb 14 chwaraewr sy'n rhan o garfan yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Ac er bod y Gweilch heb rai o'i sêr, roedd cryfder y garfan yn amlwg.
Sgoriodd y capten Jonathan Spratt ddwywaith, ac aeth y cefnwr Sam Davies dros y linell ddwywaith hefyd.
Ymysg y sgorwyr eraill oedd Ashley Beck, Rhys Webb a Ryan Jones.
Chwaraeodd Webb a'r maswr Dan Biggar eu rhan, cyn gadael y cae yn yr ail hanner.
Mae rhai yn galw ar Warren Gatland i'w dewis ar gyfer gem nesaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Ffrainc.
Mantvydas Tveraga sgoriodd unig gais Treviso, gyda Mat Berquist yn trosi'r gic.
Gweilch 75 - 7 Treviso
Gweilch: Sam Davies; Jeff Hassler, Jonathan Spratt (capt), Ashley Beck, Aisea Natoga; Dan Biggar, Rhys Webb; Ryan Bevington, Scott Baldwin, Aaron Jarvis, Lloyd Peers, James King, Tyler Ardron, Joe Bearman, Sam Lewis.
Eilyddion: Matthew Dwyer, Duncan Jones, Dan Suter, Ryan Jones, Dan Baker, Tom Habberfield, Matthew Morgan, Hanno Dirksen.
Treviso: Mat Berquist; Ludovico Nitoglia, Andrea Pratichetti, Enrico Bacchin, Brendan Williams; James Ambrosini, Fabio Semenzato; Matteo Muccignat, Franco Sbaraglini, Ignacio Fernandez-Rouyet,Valerio Bernabò (capt), Corniel Van Zyl, Christian Loamanu, Marco Filippucci, Meyer Swanepoel.
Eilyddion: Enrico Ceccato, Romulo Acosta, Pedro Di Santo, Giovanni Maistri, Mantvydas Tveraga, Jacopo Sarto, Andrea Menniti-Ippolito, Alberto Di Bernardo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2014

- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2014
