Y Rhyl 2-0 Airbus UK Brychdyn
- Cyhoeddwyd

Daeth ergyd i obeithion Airbus o gipio pencampwriaeth Uwchgynghrair Cymru wrth iddyn nhw golli yn Y Rhyl nos Lun.
Roedd hi'n gêm agos tan y munudau olaf ar faes y Belle Vue.
Yn wir roedd 84 munud wedi chwarae cyn gweld y gôl gyntaf, a Danny Hughes a rwydodd honno i'r tîm cartref.
Ond yna o fewn munud a hanner fe gafodd Y Rhyl gic o'r smotyn.
Sgoriodd Paul McManus gyda'i gynnig i sicrhau buddugoliaeth o 2-0 i'r Rhyl.
Mae'r canlyniad yn gadael Airbus chwe phwynt y tu ôl i'r Seintiau Newydd ar y brig, ac yn codi'r Rhyl i'r trydydd safle er eu bod nhw wedi chwarae mwy o gemau na'r timau o'u cwmpas.