Priestland yn aros gyda'r Scarlets
- Cyhoeddwyd

Rhys Priestland yw'r diweddaraf i ddewis aros yng Nghymru y tymor nesaf
Mae rhanbarth rygbi'r Scarlets wedi cyhoeddi bod maswr Cymru, Rhys Priestland, wedi ymestyn ei gytundeb gyda nhw.
Mae'r chwaraewr 26 oed, sydd wedi ennill 27 o gapiau dros Gymru, yn ymuno â Scott Williams a Liam Williams wrth benderfynu aros gyda'r tîm o Lanelli y tymor nesaf.
Daw'r newyddion ar ôl cyhoeddiad y Scarlets y bydd Regan King yn ailymuno gyda'r rhanbarth o Clermont Auvergne.
Dywedodd Priestland: "Mae gennym (Scarlets) nifer o chwaraewyr cyffrous y tymor nesaf ac rwyf am fod yn rhan o'r tîm sy'n gwireddu breuddwydion y rhanbarth.
"Dyma lle y gwnes i ddatblygu fel chwaraewr rygbi, ac maen nhw wedi fy nghefnogi ers y dechrau gyda hyfforddwyr da a chwaraewyr profiadol.
"Mae'n bwysig i mi barhau gyda f'ymrwymiad i'r gymuned rygbi wych yma yr wyf mor falch i fod yn rhan ohoni."
Ychwanegodd prif hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby: "Mae llawer wedi cael ei ddweud am sut i gadw'n chwaraewyr gorau yng Nghymru, ac er bod grym y farchnad yn ei gwneud hi'n anodd ar brydiau, mae dimensiwn arall i'r drafodaeth sef creu awyrgylch rygbi sy'n ennyn teyrngarwch.
"Roedd hi'n bwysig iawn i gadw Rhys a chwaraewyr eraill ym Mharc y Scarlets, ac fe fydd ein cefnogwyr wrth eu boddau hefyd."