Cwest: Merch wedi ei lladd yn anghyfreithlon ar wyliau yn Nhwrci
- Cyhoeddwyd

Roedd Cerys Potter are ei gwyliau yn Nhwrci
Mae cwest wedi penderfynu bod merch naw oed o Fro Morgannwg wedi cael ei lladd yn anghyfreithlon.
Dywedodd y crwner Christopher Woolley fod dynladdiad oherwydd esgeulustod dybryd wedi cyfrannu at ei marwolaeth.
Clywodd y cwest yng Nghaerdydd sut y bu farw Cerys Potter o Lancarfan wedi iddi gael ei thaflu o rafft wynt tra oedd hi ar wyliau yn Nhwrci.
Mi foddodd y ferch wedi i'r rafft daro craig ar Afon Dalaman yn 2010.
Fe glywodd y cwest fod Cerys yng nghefn y rafft oedd yn cludo 13 o bobl.
Dywedodd un teithiwr wrth y crwner fod y dŵr yn fwy grymus ac yn llifo'n gynt nag yr oedden nhw wedi'i ddisgwyl.
Yn saff
Clywodd y cwest bod y rafft wedi mynd yn sownd ble oedd yr afon yn ddwfn a chyflym a bod pawb wedi ei daflu i'r dŵr.
Fe gafodd y criw eu sicrhau bod Cerys yn saff ond doedd neb yn gallu ei gweld.
Mae'n debyg bod trefnwyr y daith wedi oedi am fwy na 40 munud cyn dechrau chwilio amdani.
Fe ddaethpwyd o hyd i'w chorff tua dwy awr yn ddiweddarach.
Dywedodd teithiwr ei fod yn credu bod gormod o bobl ar y rafft, fod gormod o blant yno a bod y trefniadau diogelwch yn anaddas.
Yn ôl yr arbenigwr diogelwch Paul O'Sullivan nid oedd y cwmni o Dwrci yn addas i'r diben ac ni ddylai plant naw oed fod wedi mynd ar y daith.
Tair blynedd
Wedi'r gwrandawiad dywedodd tad Cerys, Terry Potter, ei fod yn croesawu'r rheithfarn.
Gallai'r teulu alaru, meddai, wedi iddyn nhw ymladd am gyfiawnder am dair blynedd.
"Fe ges i wybod fod wyth digwyddiad wedi bod ar yr afon ac wyth wedi eu lladd.
"Doedd dim siâp ar y cwmni a dim llawer o sylw i ddiogelwch.
"Cadwch draw o'r afon. Efallai na ddaw eich plant yn ôl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2013