Ymosodiad ar ddynes yn Ninbych: apêl am wybodaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth wedi ymosodiad ar ddynes yn Ninbych.
Rhwng 12.30yb a 1.30yb ar Chwefror 16 roedd y ddynes yn cerdded ar hyd Ffordd Henllan tuag at Ddinbych.
Mae'n debyg bod dyn wedi cerdded tu ôl i'r ddynes ac wedi ei hyrddio i'r llawr.
Cafodd hi fân anafiadau a rhedodd y dyn lawr Ffordd Henllan i gyfeiriad Dinbych.
Roedd y dyn yn ei 30au hwyr neu 40au cynnar hyd at bum troedfedd a deg modfedd o daldra ac yn gwisgo siaced las tywyll neu ddu.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio Cwnstabl Hooper yng Ngorsaf Heddlu Dinbych ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555 111, gan ddyfynnu cyfeirnod R023993.