Casgliad mawr o waith John Piper i Amgueddfa Cymru

  • Cyhoeddwyd
Tarddle'r Dyfi (1943-4) gan John Piper
Disgrifiad o’r llun,

Mae Amgueddfa Cymru wedi prynu casgliad pwysig o weithiau gan John Piper.

Cwm Creigiog, Gogledd Cymru (1948) gan John Piper
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cyfran helaeth o'r casgliad yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fel rhan o arddangosfa newydd yn dathlu tirlun, llên a gorffennol Celtaidd Cymru.

Creigiau Garw dan Fynydd Tryfan (c1948) gan John Piper
Disgrifiad o’r llun,

Yr ysbrydoliaeth i Ymweliad â Chymru: Barddoniaeth, Rhamantiaeth a Myth Byd Celf yw cerdd y bardd o America, Allen Ginsberg, a gyfansoddwyd tra ar ymweliad â'r Mynydd Du yn 1967.

Creigiau yng Nghapel Curig (c1947) gan John Piper
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r arddangosfa yn plethu gweithiau o gasgliad yr amgueddfa sy'n edrych ar Ramantiaeth gyfoes a modern ac yn cynnwys gwaith artistiaid fel David Jones, Richard Long, Graham Sutherland, Clare Woods yn ogystal â John Piper.

Ffurfiant Creigiau (c1948) gan John Piper
Disgrifiad o’r llun,

Cyfraniad Piper i'r arddangosfa yw cyfres o olygfeydd o Eryri a fu'n ffynhonnell gyfoethog o ysbrydoliaeth i Piper o ddechrau'r 1940au tan ganol y 1950au. Mae'r arddangosfa'n cychwyn ar ddydd Sadwrn, 22 Chwefror 2014.