Gleision 22-34 Leinster
- Cyhoeddwyd

Gareth Davies a sgoriodd gais gwefreiddiol i'r Gleision
Collodd y Gleision i Leinster sydd a'r frig tabl RaboDirect Pro12 ym Mharc yr Arfau, mewn gêm agored gyda'r ddau dîm yn chware rygbi deniadol.
Yn yr hanner cyntaf aeth Y Gleision 14 pwynt i lawr yn yr 20 munud cyntaf wrth i rif 8 Leinster, Jack Conden, sgorio cais. Daeth ail gais i'r Gwyddelod wrth i'r bachwr Richardt Strauss groesi. Trosodd y maswr Jimmy Gopperth y ceisiau i ymestyn y fantais.
Ond wedi fflach o ysbrydoliaeth gan faswr y Gleision Gareth Davies, fe gymerodd ei dîm rheolaeth o weddill yr hanner cyntaf.
Ciciodd Gopperth gôl gosb i Leinster i ymestyn eu mantais ond cosbwyd eu clo Tom Denton, gan ei yrru i'r cell cosb wedi iddo dderbyn cerdyn felyn.
Yn fuan wedyn croesodd bachwr Kristian Darcy y llinell am ail gais i'r Gleision yn dilyn sgarmes symudol gan adael y Gleision 12 pwynt i 17 ar ei hôl hi ar yr egwyl.
Dechreuodd yr ail hanner yn ddistaw gyda Gopperth a Davies yn sgorio gyda chiciau cosb, ond roedd y pwysau yn dechrau dweud ar y Gleision wrth iddynt ildio dau gais sydyn gan y prop, Michael Bent a'r mewnwr Eoin Redden.
Gyda throsiadau gan Gopperth roeddynt ugain pwynt ar y blaen.
Ond ymdrechodd Y Gleision i ddod yn ôl i'r gêm gyda Dan Fish y cefnwr yn sgorio cais haeddiannol wedi iddo fylchu nifer o weithiau trwy'r gêm.
Yn y munudau olaf daeth y Gleision dan bwysau eto - methodd Gopperth gyda chic gosb i ymestyn mantais Leinster ymhellach.
Daeth y gêm i ben gyda'r Gleision yn ceisio ymosod yng nghanol cae ond yn rhedeg i mewn i amddiffynwyr Leinster.
Mae'r canlyniad yn gadael y Gleision yn y nawfed safle yn y tabl.