Lladrad ym Metws y Coed: Pump yn y llys
- Cyhoeddwyd
Mae pump o ddynion o ardal Lerpwl wedi ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno wedi lladrad o siop nwyddau awyr agored ym Metws y Coed.
Fe gafodd gwerth £11,000 o ddillad eu dwyn o siop Cotswolds yn y pentre' nos Fercher.
Wnaeth y dynion ddim pledio na gwneud cais am fechnïaeth.
Maen nhw yn y ddalfa tan eu gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, Chwefror 28.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2014
