Pont y Foryd ar gau ar gyfer atgyweirio
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ym mis Gorffennaf a pharhau am 24 wythnos.
Bydd pont brysur sy'n cysylltu Sir Conwy a Sir Ddinbych ar gau am hyd at dair wythnos tra bod gwaith atgyweirio strwythurol yn digwydd.
Mae'n rhaid i brif fwrdd Pont y Foryd, ar yr A548, sy'n cysylltu Rhyl gyda Bae Cinmel a Tywyn, gael ei adnewyddu'n llwyr oherwydd ei fod wedi rhydu.
Mae dwr y môr wedi difrodi'r pileri concrid, ac mae gwaith sylweddol ar yr ochr ddwyreiniol.
Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ym mis Gorffennaf a pharhau am 24 wythnos.
Mae adroddiad gan gyngor sir Ddinbych yn dweud bod y gwaith wedi'i gynllunio i darfu ar draffig cyn lleied ag sy'n bosib.
Ni fyddai unrhyw ffordd yn cael ei gau yn digwydd tan o leiaf fis Hydref, yn ôl yr adroddiad.