Carchar am ddwyn o gartref y rheolwr Garry Monk
- Cyhoeddwyd

Cafodd y ddau garchar am gyfanswm o 10 mlynedd
Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu am gyfanswm o 10 mlynedd oherwydd nifer o achosion o ladrata yn ardal Abertawe a Chastell-nedd, gan gynnwys lladrad o gartref rheolwr Clwb Pêl-droed Abertawe, Garry Monk.
Yn Llys y Goron Abertawe cafodd Ben Llewellyn (28) a James Green (34) o Dreforys eu carcharu.
Cafodd y ddau eu harestio yn wreiddiol yn dilyn lladrad o dŷ yn Alltwen, Cwm Tawe, cyn cael eu cysylltu gyda lladrad o dŷ Garry Monk ar ôl i'r heddlu ddarganfod tystiolaeth fforensig.
Wedyn fe ddaeth yr heddlu o hyd i eiddo yn Abertawe a Chastell-Nedd oedd wedi cael ei ddwyn o dai yn yr ardal.
'Llun o oriawr'
Cafodd dwy ddynes eu harestio am drafod nwyddau oedd wedi cael eu dwyn ar ôl i'r heddlu ddod o hyd i lun un ohonyn nhw yn gwisgo oriawr oedd yn eiddo i bartner Garry Monk.
Ar ôl i Llewellyn a Green gael eu harestio fe wnaeth y ddau gyfaddef eu bod wedi bod yn gyfrifol am dros 30 lladrad yn dyddio'n ôl i 2002.
Yn y llys fe gafodd Llewellyn ei garcharu am chwe blynedd ac fe gafodd Green ddedfryd o bedair blynedd.
'Dros ddegawd'
Yn ôl y Ditectif Gwnstabl Chris Grey o Heddlu De Cymru: ''Yn gynnar iawn yn ein hymchwiliad i'r lladrad yn Alltwen roedd yn amlwg fod Green a Llywellyn wedi chwarae rhan mewn nifer o achosion lladrata ar hyd ardal Abertawe a Chastell-nedd.
"Rydym wedi defnyddio yr holl ddulliau ymchwiliadol sydd ar gael i gysylltu'r ddau gyda throseddau oedd heb gael eu datrys - rhai'n dyddio'n ôl dros ddegawd.''