Gorchymyn i lanc 15 oed yrrodd gar am 40 milltir cyn taro car arall
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed bod car heddlu wedi dilyn llanc 15 oed am 50 munud cyn iddo daro car arall.
Yn Llys Ynadon Hwlffordd fe gafodd y llanc orchymyn adsefydlu am ddwy flynedd.
Does dim modd ei enwi am resymau cyfreithiol.
Clywodd y llys iddo ddwyn Fiat Punto yn Saundersfoot yn Sir Benfro a gyrru am 40 milltir cyn taro car all.
Roedd damwain ym Mhorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, a chafodd pawb fân anafiadau.
Plediodd yn euog i gyhuddiadau o ddwyn, gyrru'n beryglus a bod heb drwydded nac yswiriant.