Cyn-bennaeth yn pledio'n ddieuog
- Cyhoeddwyd
Yn Llys y Goron Abertawe mae cyn-brif weithredwr elusen lleiafrifoedd ethnig Cymru, Awema, wedi pledio'n ddi-euog i dri chyhuddiad o dwyll ariannol.
Cafodd Nasir Malik o Brynmill, Abertawe, ei gyhuddo o hawlio mwy na £16,000 oddi wrth yr elusen drwy dwyll.
Fe fydd yn mynd o flaen llys ym mis Awst.
Roedd elusen Awema (All Wales Ethnic Minority Association) yn dosbarthu arian cyhoeddus i brosiectau yng Nghymru er mwyn hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Cafodd yr elusen ei dirwyn i ben ym mis Chwefror 2012 wedi iddyn nhw golli cyllid.